Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Clwb ar ôl Ysgol

Mae clwb ar ôl ysgol yn cael ei redeg yn yr ysgol i ofalu am unrhyw blant sydd angen aros yn yr ysgol ddiwedd diwrnod arferol yr ysgol.  Mae croeso i ddisgyblion o bob oed i fynychu'r clwb.  Bydd y clwb yn cynnig byr bryd a diod i bob plentyn ar ddechrau'r clwb.  Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig yn y clwb i ddiddanu'r plant e.e. celf a chrefft, gemau a clwb ffilm.

 

Os ydych am i'ch plentyn aros i'r clwb ar ôl ysgol, rhaid archebu eu lle drwy ddefnyddio Parent Pay.

Dewiswch y sesiwn rydych am i'ch plentyn fynychu o flaen llaw.  Rhaid archebu lle cyn 2 o'r gloch.  Yn ogystal, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod cyfrif eich plentyn mewn credyd.  Os rydych wedi archebu lle ond wedyn ddim ei angen , cysylltwch gyda' ysgol.

Dyma'r costau i fynychu'r clwb : - 

 

3.16yh i 4.15yh - £4.00 

3.16yn i 5.15yh - £6.00 

Rhaid casglu'ch plentyn erbyn 5.15yh.

Os ydych yn hwyr, bydd cost ychwanegol o £5 i bob plentyn.  

 

Buaswn yn gwerthfawrogi os buaswch yn gallu cadw lle i'ch plentyn yn y clŵb o flaen llaw a talu am y clŵb yn wythnosol.

 

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top