Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Clwb Brecwast

CLWB BRECWAST

 

Mae Clwb Brecwast ar gael yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8:00yb, mae’r drysau’n cau’n brydlon am 8:30am.  Mae croeso i holl blant yr ysgol gael brecwast iach am ddim cyn i’r ysgol ddechrau. Gweler y costau isod ar gyfer y clwb brecwast : - 

 

Dylech archebu a thalu am le eich plentyn yn y clwb brecwast drwy ddefnyddio Parent Pay. Os hoffwch fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r ysgol.

 

8.00y.b - 8.15y.b. Cost o £1 am y cyfnod yma.

8.15y.b - 8.30y.b. Dim cost ond mae dal angen archebu lle ond nid talu.

Os mae eich plentyn yn mynychu clwb brecwast, sicrhewch eich bod yn archebu lle cyn 8yb.  Rhaid archebu lle os mae eich plentyn yn mynychu'r sesiwn am ddim hefyd. 

 

Cysylltwch yr ysgol os ydych chi angen mwy o fanylion. 

 

Dewisiadau Brecwast:

Grawnfwyd

Tost

Ffrwythau Amrywiol

Diod - Dŵr neu Llaeth

 

 

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top