Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Croeso

Croeso cynnes i wefan yr ysgol, gobeithiaf y bydd y cynnwys yn ddefnyddiol.
Mae'n bleser mawr gennyf eich cyfarch, fel Pennaeth Ysgol Bryn Tabor, Coedpoeth.

Ysgol Gynradd Gymunedol Cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Bryn Tabor sy'n gwasanaethu pentref Coedpoeth a'r ardaloedd cyfagos. Sefydlwyd yr ysgol fel uned fechan ym 1967 ac mae wedi tyfu dros y blynyddoedd. Ar ôl rhannu safle gydag Ysgol Penygelli ers nifer o flynyddoedd, symudodd Ysgol Penygelli i safle newydd ac yn 2007 agorwyd yr Ysgol Bryn Tabor newydd wedi'i ailfodelu.

Rydym yn falch iawn o'r gymuned hapus, ofalgar a chroesawgar yn yr ysgol. Prif nod yr ysgol yw darparu amgylchedd hapus a diogel lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi. Anelir at sicrhau cydbwysedd rhwng cyflawniad academaidd a datblygiad sgiliau personol. Pwysleisir hefyd yr angen am baratoi disgyblion i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas y maent yn perthyn iddi. Rydym yn anelu at ddarparu addysg o’r radd flaenaf, yn adlewyrchu anghenion pob disgybl ac yn galluogi pob unigolyn i gyrraedd ei lawn botensial.

Rydym yn ysgol Gymraeg ac mae disgyblion yn gadael yma yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Credwn fod gallu defnyddio dwy iaith yn rhoi mwy o ddewisiadau mewn bywyd i ddisgyblion.

Kevin Williams, Pennaeth Ysgol Bryn Tabor

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top