Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Datganiad Cyfrinachedd

Hysbysiad Preifatrwydd

(Sut ydym ni’n defnyddio gwybodaeth myfyrwyr)

Mae’r gwahanol gategorïau o wybodaeth myfyrwyr rydym ni’n eu casglu, eu cadw a’u rhannu yn cynnwys:

  • Gwybodaeth bersonol (megis enw, rhif unigryw'r disgybl a chyfeiriad)
  • Nodweddion (megis ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol ac ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim)
  • Gwybodaeth am bresenoldeb (megis sesiynau y maent wedi’u mynychu, nifer o absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
  • Gwybodaeth asesu (megis graddau, graddau a ddisgwylir a chanlyniadau profion)
  • Gwybodaeth feddygol (megis alergeddau, meddyginiaeth)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gwybodaeth ymddygiad (Ymddygiad cadarnhaol a negyddol, a gwybodaeth am waharddiad)
  • TCC

Pam ein bod yn casglu a defnyddio’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio'r data myfyriwr:

  • i gefnogi dysgu’r myfyriwr
  • i fonitro ac adrodd yn ôl ar gynnydd myfyriwr
  • i ddarparu gofal bugeiliol priodol
  • i asesu ansawdd ein gwasanaethau
  • i gydymffurfio â’r gyfraith o ran rhannu data

Mae’r gwahanol gategorïau o wybodaeth Gwarcheidwad rydym ni’n eu casglu, eu cadw a’u rhannu yn cynnwys:

  • gwybodaeth bersonol (megis enw, cyfeiriad)
  • perthynas â’r myfyriwr

Rydym yn defnyddio’r data Gwarcheidwad:

  • i gysylltu â chi
  • i rannu gwybodaeth gyda chi

Y sail gyfreithlon i ni ddefnyddio’r wybodaeth yma

Rydym ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth myfyriwr o dan Adran 537A Deddf Addysg 1996 ac Erthygl 6 a 9 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol.

 

 

 

Casglu gwybodaeth myfyriwr

Er bod y mwyafrif o wybodaeth myfyriwr rydych yn ei ddarparu yn orfodol, darperir rhywfaint ohono ar sail wirfoddol. Er mwyn cydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes rhaid i chi ddarparu gwybodaeth myfyriwr penodol i ni neu a oes gennych chi ddewis.

Storio data myfyriwr

Rydym yn storio eich data ar gyfrifiaduron diogel ac ar gofnodion papur sydd yn cael eu cadw dan glo. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r ysgol storio data personol amdanoch chi ar ôl i chi adael yr ysgol. Er mwyn bodloni’r rhwymedigaethau hyn, rydym yn cadw data myfyrwyr nes bod y myfyriwr yn 25 oed. Felly, i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n gadael yr ysgol yma’n 11 oed, byddwn yn cadw’r data amdanynt am 14 blwyddyn arall cyn ei ddinistrio’n ddiogel.

Gyda phwy rydym ni’n rhannu gwybodaeth myfyriwr

Rydym ni’n rhannu gwybodaeth myfyriwr yn rheolaidd gyda:

  • Ysgolion y bydd myfyrwyr yn eu mynychu ar ôl ein gadael ni
  • Ein hawdurdod lleol
  • Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru
  • Llywodraeth Cymru (LlC)
  • GIG (dim ond data sydd ei angen arnynt i allu trefnu rhaglenni imiwneiddio, mae’r data yma’n cynnwys eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni a manylion eich rhiant/rhieni

Pam ein bod ni’n rhannu gwybodaeth myfyriwr

Nid ydym ni’n rhannu gwybodaeth am ein myfyrwyr gydag unrhyw un heb ganiatâd oni bai bod yn rhaid i ni yn ôl y gyfraith a pholisïau.

Rydym yn rhannu data myfyrwyr gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Mae rhannu data fel hyn yn ategu cyllid yr ysgol a pholisi a monitro cyrhaeddiad addysgol.

I ddysgu mwy ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio data myfyrwyr, ewch i:

https://gov.wales/docs/dcells/publications/171117-privacy-notice-young-peoples-cy.pdf

 

 

Mae’n rhaid i ni rannu gwybodaeth am ein myfyrwyr gyda’n hawdurdod lleol (ALl) a Llywodraeth Cymru.

Gofynion casglu data:

I ddysgu mwy am ofynion casglu data gan Lywodraeth Cymru (er enghraifft; trwy gyfrifiad yr ysgol) ewch i:

https://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/schooldata/ims/datacollections/?skip=1&lang=cy

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau i bobl ifanc, ewch i wefan ein hawdurdod lleol: www.wrecsam.gov.uk

Cronfa Ddata Genedlaethol Disgyblion (NDP)

Llywodraeth Cymru sydd yn berchen ar ac yn rheoli Cronfa Ddata Genedlaethol Disgyblion (NDP) Cymru ac mae’n cynnwys gwybodaeth am fyfyrwyr mewn ysgolion yng Nghrymu. Mae’n darparu tystiolaeth amhrisiadwy ar berfformiad addysgol er mwyn llywio ymchwil annibynnol, yn ogystal ag astudiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu comisiynu. Caiff ei gadw mewn fformat electronig at ddibenion ystadegol. Caiff yr wybodaeth yma ei chasglu’n ddiogel gan ystod o ffynonellau yn cynnwys ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff dyfarnu.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni ddarparu gwybodaeth am ein myfyrwyr i Lywodraeth Cymru yn rhan o gasgliadau data statudol megis y cyfrifiad ysgol a chyfrifiad blynyddoedd cynnar. Yna caiff rhywfaint o’r wybodaeth yma ei storio yn NDP Cymru. I gael gwybod mwy am NDP Cymru, ewch i https://gov.wales/statistics-and-research/about/how-we-use-your-data/?skip=1&lang=cy

Gwneud cais i weld eich data personol

O dan deddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a myfyrwyr yr hawl i wneud cais i weld yr wybodaeth sydd gennym amdanynt. I wneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu i weld cofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â’n Arweinydd Diogelu Data – Kevin Williams

Pennaeth, Ysgol Bryn Tabor 01978 722180

 

Mae gennych hefyd hawl:

  • i wrthwynebu i brosesu data personol sydd yn debygol o achosi, neu sydd yn achosi niwed neu ofid
  • atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • gwrthwynebu penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ffurf awtomatig
  • mewn amgylchiadau arbennig, gofyn i ddata personol anghywir gael ei gywiro, ei flocio, ei ddileu neu ei ddinistrio; a
  • hawlio am iawndal am dorri rheoliadau Diogelu Data

Os ydych chi'n pryderu am y modd rydym ni'n casglu neu'n defnyddio eich data personol, rydym yn gofyn i chi drafod y mater gyda ni i gychwyn. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/concerns/

Cysylltu

Os hoffech chi drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch ag:

Arweinydd Diogelu Data yr Ysgol

Kevin Williams Ysgol Bryn Tabor 01978 722180

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top