Croeso i dudalen gwefan dosbarth Blwyddyn 1 a 2 Hwyaid Hapus Miss Sioned Morris.
Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau hwylus y plant.
Y tymor yma ein thema yw Pan af i Gysgu. (Y Goedwig.) Fel rhan o’r thema, bydd y plant yn cael cyfle i roi mewnbwn ar beth mae nhw eisiau ei ddysgu o fewn y thema. Rydym wedi bod yn brysur yn astudio stori y Gryffalo.
Gwybodaeth Bwysig
Bagiau Darllen – Os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau bod eich plentyn yn dod a bag darllen i’r ysgol yn ddyddiol. Does dim diwrnod penodol lle rydym yn darllen yn unigol.
Gwaith Cartref – Yn cael ei rannu ar ddydd Gwener ac angen ei ddychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Mercher dilynol. (Mi fydd hyn yn dechrau at ôl hanner tymor.)
Cit Ymarfer Corff – Rhaid sicrhau fod gan y plant cit glan yn yr ysgol ar ddechrau pob hanner tymor. Bydd y cit yn cael ei adael yn yr ysgol.
Ysgol Goedwig – Mi fydd dosbarthiadau’r Uned yn mynd tu allan i’r Ysgol Goedwig unwaith pob tair wythnos ar ddydd Gwener. Pan fydd Hwyaid Hapus yn mynd, byddent yn derbyn llythyr ar y dydd Iau. Mae angen sicrhau eu bod yn dod a dillad addas ac esgidiau glaw mewn bag wedi ei labelu.
Arian Ffrwyth – Mae’r plant yn derbyn ffrwyth bob bore. Gofynnwn yn garedig i chi dalu £1.00 yr wythnos a’i anfon i’r ysgol mewn amlen wedi’w labelu ar ddechrau pob hanner tymor os gwelwch yn dda.
Dyddiadau i’w cofio
18fed o Ragfyr - Taith i'r Sinema.