Croeso i dudalen gwefan dosbarth Celyn. Athrawon y dosbarth yma yw Mrs Price a Mrs Humphreys. Ar y dudalen hon, rydym yn gobeithio rhannu newyddion, lluniau a fideos o blant prysur y dosbarth yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Ein thema'r tymor yma yw Anifeiliaid. Bydd cyfle i'r dysgwyr ddewis rhai o'r testunau byddwn yn astudio fel rhan o'r gwaith thema.
Gwybodaeth Bwysig
Gwaith Cartref – Bydd gwaith Cartref yn cael ei rannu pob dydd Iau, ac mae angen ei ddychwelyd i'r ysgol erbyn y dydd Mawrth dilynol.
Bagiau darllen – Cofiwch ddod â’ch bagiau darllen i’r ysgol POB DYDD!
Addysg Gorfforol – Dydd Mawth (tu fewn) a dydd Gwener (tu allan).
Cofiwch ddod â’ch gwisg wedi ei labelu’n glir ar ddechrau pob hanner tymor. Y gwisg yw: siorts neu jogyrs du neu las tywyll, crys-t gwyn ac esgidiau Addysg Gorfforol.
Arian Ffrwyth - Cofiwch fod ffrwyth ar gael am £1 yr wythnos.
Dyddiadau i'w Cofio