Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Prydau Ysgol

Cinio Ysgol

Mae prydau ysgol nawr angen cael eu talu am a'i archebu o adref drwy ddefnyddio Parent Pay. Gofynnwn i chi ddewis pryd eich plentyn cyn 8 o'r gloch y bore. Mae angen i'ch plentyn gael pres ar eu cyfrif o flaen llaw.  Os rydych wedi dewis pryd ar gyfer eich plentyn a dydy eich plentyn ddim yn dod i'r ysgol ar y diwrnod hwnnw, gadewch i ni wybod fel ein bod yn gallu canslo'r pryd.  Os ydych angen cymorth yn cael mynediad i gyfrif eich plentyn, cysylltwch gyda swyddfa'r ysgol.

 

Mae Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio'n barhaus i ddarparu amrywiaeth eang o ddewisiadau iach er mwyn bodloni rhai o ofynion maethol plant sy'n tyfu ac yn datblygu.

 

Mae'r Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol mewn ysgolion cynradd yn cynnig bwydlen dau gwrs am bris penodol sydd â dewis dyddiol o ddau brif gwrs neu datws pob wedi'u llenwi a salad neu becyn cinio, ynghyd â phwdin ffres neu ffrwythau ffres a iogwrt.

 

  • Prydau Ysgol  - £2.40

 

Cynigir dewis o lysiau bob dydd, ynghyd ag amrywiaeth o wahanol garbohydradau gan gynnwys reis a phasta. Dylai sglodion fod ar gael unwaith yr wythnos yn unig.

Mae prydau ysgol yn rhoi cyfle ardderchog i blant roi cynnig ar fwydydd newydd yn gynnar yn ystod eu blynyddoedd datblygol. Tra bo staff arlwyo’n gwneud pob ymdrech i annog pobl ifanc i ddewis prydau iach, mae’n hanfodol bod rhieni ac ysgolion yn gwneud yr un fath. Gyda’u cefnogaeth hwy gallwn annog plant i newid eu harferion bwyta a dewis y bwyd iach sydd ar gael yn rheolaidd.

Yr her i bawb sy'n arlwyo prydau ysgol yw paratoi bwyd y bydd y disgyblion yn ei fwynhau ac yn ei fwyta, sydd hefyd yn hybu arferion bwyta da.

 

Pam dylech ddewis pryd ysgol i'ch plentyn?

  • Prydau ffres a maethlon sy'n defnyddio cynhwysion iach sylfaenol.
  • Staff arlwyo hyfforddedig a chymwys a fydd yn gwneud pob ymdrech i annog eich plentyn i ddewis pryd iach.
  • Bwydlen â chylchred 3 wythnos sydd ag amrywiaeth eang o ddewisiadau.
  • Bwydlenni sy'n cydymffurfio â'r safonau maethol ar gyfer prydau ysgol, a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gymeradwywyd gan Ddietegydd Cymunedol.
  • Mae'r pryd ysgol yn cynnig gwerth am arian.
  • Gellir ystyried anghenion dietegol arbennig.
  • Dewisiadau llysieuol ar gael bob dydd.
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol.
  • Bwyd sy'n helpu plant i feddwl ac i dyfu.
  • Mae plant yn gallu canolbwyntio'n well yn y prynhawn ar ôl bwyta pryd ysgol cytbwy.

 

Cinio Ysgol v Cinio Pecyn

Efallai nad yw paratoi cinio pecyn i’ch plentyn mor gost effeithiol ag y tybiwch. Gyda chostau bwyd yn codi’n barhaus, mae’n werth ystyried manteision dewis y Cinio Pecyn Iach sy’n cael ei baratoi gan y gwasanaeth arlwyo cinio ysgol.

Mae Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cynnwys:

  • Dewis o frechdan, wrap neu rôl (i gynnwys llenwadau caws, tiwna, cig neu wy) neu focs salad pasta.
  • Dewis o ffrwyth ffres
  • Dŵr neu Llaeth
  • Teisen frau, bisged ceirch neu iogwrt.

Mae pob Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cael ei gadw mewn amodau oer priodol nes bydd ei angen amser cinio.

Os oes gan eich plentyn hawl i bryd am ddim, gellir darparu cinio pecyn ar gais.

Gall y Cinio Pecyn Iach Ysgol roi pryd iach a chytbwys i’ch plentyn. Mae pob cinio yn cydymffurfio â’r canllawiau maethol a gall gynnig y maetholion pwysig sydd eu hangen ar blant i dyfu, a datblygu yn eu blynyddoedd cynnar.

Rhowch gynnig ar Ginio Pecyn Iach Ysgol am yr un pris â chinio ysgol. Gellir gofyn am ginio pecyn o flaen llaw, neu gellir eu dewis wrth y cownter amser cinio.

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top