Croeso i dudalen gwefan dosbarth Alwen. Athrawes y dosbarth yma yw Miss Elisha Jones. Ar y dudalen hon, rydym yn gobeithio rhannu newyddion, lluniau a fideos o blant prysur y dosbarth yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Ein thema'r tymor yma yw'r Celtiaid. Bydd cyfle i'r dysgwyr ddewis rhai o'r testunau byddwn yn astudio fel rhan o'r gwaith thema.
Gwersi Addysg Gorfforol
Bydd eich plentyn yn cael gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Llun a dydd Gwener. Ar y dyddiau yma, hoffwn i’ch plentyn ddod i’r ysgol mewn dillad addas ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol – sef Crys T wen a siwmper ysgol, jogyrs du neu glas tywyll plaen (mae logo bach yn iawn) a treinyrs. Bydd y gwersi Addysg Gorfforol yn cymryd lle tu allan os mae’r tywydd yn caniatáu ac yn cychwyn o’r wythnos sy’n dechrau Medi’r 14eg. Yn anffodus, fydd rhaid gohirio’r gwersi os yw’r tywydd yn anaddas i fynd tu allan.