Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Cwricwlwm Newydd i Gymru

PARATOI AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD i GYMRU

Mae’r ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd fydd yn statudol o fis Medi, 2022.  Gweledigaeth y cwricwlwm newydd yw cyfrannu at allu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben ac i feithrin y sgiliau cyfunol sy’n sail i’r dibenion.

 

Y Pedwar Diben

Nod y cwricwlwm yw cefnogi dysgwyr i ddod yn :

  • ddysgwyr uchelgeisiol sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

Bydd sgiliau hanfodol yn cael eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu;

sef creadigrwydd ac arloesi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu a sgiliau trawsgwricwlaidd.

 

Bydd 6 Maes Dysgu a Phrofiad yn rhan o’r Cwricwlwm Newydd : -

Y Celfyddydau Mynegiannol

Iechyd a Lles

Y Dyniaethau

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mathemateg a Rhifedd

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top