Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Mrs Mererid Liversage - Dosbarth Meithrin

Croeso i dudalen gwefan Y Meithrin.

 

Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau o weithgareddau y plant prysur, yn y dosbarth a’r ardal tu-allan.

 

Mrs Liversage yw athrawes plant Y Meithrin. Yn ogystal mae Miss Sera a Miss Charlie yn edrych ar ôl y plant. Eleni mae yna 23 o blant yn Y Meithrin. 

 

Tymor yma, rydym am weithredu thema ysgol gyfan, sef Dewis da, Bywyd da. Ein bwriad yn ystod y thema yma yw canolbwyntio yn benodol ar iechyd a lles yn ogystal ag ymchwilio’r meysydd eraill. Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau thema newydd ac yn awyddus iawn i gael mewnbwn y disgyblion.

 

Mae‘r plant yn mwynhau canu a chyfri ar y mat bob bore. Maent wrth eu boddau yn gwrando ar storiau ‘Magi Ann,’ ar yr Ipad, a sgwrsio a rhannu eu newyddion  ac eu teimladau yn ystod Amser Cylch.

 

Gwybodaeth Bwysig

 

Addysg Gorfforol –

Does dim angen gwisg tan Tymor yr Haf.

TYMOR YR HAF - Plant Y Meithrin i ddod i’r ysgol mewn trainers neu pymps bob Dydd Mawrth, ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol, tu-allan ar y cae neu y cae bob tywydd.

 

Arian FfrwythMae’r plant yn derbyn ffrwyth bob bore. Gofynnwn yn garedig i chi dalu £1.00 yr wythnos a’i anfon i’r ysgol mewn amlen wedi ei labelu ar ddechrau pob hanner tymor os gwelwch yn dda.

 

Tywydd - Os bydd y tywydd yn oer, gyrrwch got, het, sgarff a menyg i 'r ysgol gydag eich plentyn.

Pan fydd y tywydd yn braf, cofiwch roi eli haul ar groen eich plentyn yn y bore cyn iddynt ddod i’r ysgol. A chofiwch eu bod yn gwisgo het haul i’r ysgol. Labelwch pob het a dilledyn yn glir gyda enw eich plentyn.

 

Seesaw  Bydd gan y plant cyfrif Seesaw er mwyn i chi fel rhieni gael cyfle i weld lluniau o'r plant yn y dosbarth. Hefyd ar adegau mi fydd "Amser Stori" yn cael ei uwch lwytho a lincs i'r plant wrando ar ganeuon Cymraeg.

Lluniau Disgyblion y dosbarth Meithrin

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top