Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Mrs Bethan Williams/Mrs Llinos Owen - Dosbarth Derbyn

Croeso i dudalen gwefan dosbarth Derbyn Mrs Llinos Owen.

Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau hwylus y plant.

 

 

Tymor yma, rydym am weithredu thema ysgol gyfan, sef Dewis da, Bywyd da. Ein bwriad yn ystod y thema yma yw canolbwyntio yn benodol ar iechyd a lles yn ogystal ag ymchwilio’r meysydd eraill. Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau thema newydd ac yn awyddus iawn i gael mewnbwn y disgyblion.

 

Yn y dosbarth derbyn bydd y plant yn dysgu trwy chwarae pwrpasol gyda gweithgareddau amrywiol, cyffrous a diddorol pob wythnos. Mae’r plant yn cael cyfle hefyd i ddysgu, ymchwilio a chwarae yn rhydd yn yr ardal awyr agored.

 

Gwybodaeth Bwysig

 

Bagiau Darllen – Bydd bag darllen eich plentyn yn cael ei yrru adref ar ddydd Gwener a bydd angen eu dychwelyd i’r ysgol ar yn ddydd Llun. Gofynnwn yn garedig i chi ysgrifennu sylw yn y cofnod darllen.

 

Cit Ymarfer Corff – Pob dydd Llun

 

Ysgol Goedwig – Pob dydd Gwener. Lili wen fach un wythnos a Cennin Pedr yr wythnos wedyn. Bydd llythyr yn cael ei ddanfon allan i'r rhieni i’w hatgoffa.

 

Arian Ffrwyth – Unwaith pob hanner tymor, bydd llythyr yn cael ei ddanfon allan i'r rhieni yw hatgoffa.

 

 

 

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top