Croeso i dudalen gwefan dosbarth Idwal, Blwyddyn 5 & 6 Miss Elena Jones a Miss Catrin Jones.
Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion, lluniau a fideos o blant prysur y dosbarth yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Ein thema'r tymor hwn yw ‘Dathliadau', mi fyddwn yn astudio a dysgu am wahanol ddathliadau o amgylch y Byd yn ystod y tymor gan gychwyn gyda diwrnod Martin Luther King ar Ionawr 16eg.
Gwersi Addysg Gorfforol
Bydd eich plentyn yn cael gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Llun a dydd Mercher. Ar y dyddiau yma, hoffwn i’ch plentyn ddod i’r ysgol mewn dillad addas ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol – sef Crys T wen a siwmper ysgol, jogyrs du neu glas tywyll plaen (mae logo bach yn iawn) a treinyrs.
Darllen
Mae pob disgybl yn cael dewis llyfr darllen Cymraeg a Saesneg i gymryd adref. Mae’n bwysig bod y disgyblion yn ymarfer darllen mor aml â phosibl. Unwaith mae’r disgyblion yn gorffen eu llyfrau, gofynnwn yn garedig i oedolyn adref lofnodi’r cofnod ddarllen ac yna dychwelyd y llyfr darllen i’r ysgol er mwyn cyfnewid am lyfr newydd. Hoffwn i chi ddod ag eich llyfr darllen a chofnod darllen i'r ysgol fel ein bod yn gallu eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau darllen.
Gwaith Cartref
Bydd tasgau gwaith cartref yn cael eu rhannu ar ddydd Iau. Mae angen dychwelyd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn y dydd Mawrth dilynol. Byddwn yn rhannu'r tasgau Gwaith cartref ar ddosbarth ‘Google Classrooms’ Idwal.
Gwybodaeth Arall :