Gwersi Cerddoriaeth
Hoffech i’ch plentyn dderbyn gwersi offerynnol yn yr ysgol gan Wasanaeth Cerdd Gydweithredol Wrecsam? Mae ystod o wersi offerynnol ar gael sef, Pres, Llinynnau, Telyn, Chwythbrennau ac eraill.
Mae’r costau ar gyfer gwersi fel y ganlyn ac mae hyn yn cynnwys llogi offeryn os oes angen.
Dewis 1: £45 y tymor - 10 gwers mewn tymor mewn grŵp o 4 (30munud)
Dewis 2: £60 y tymor – pecyn deuawd 10 gwers – dau ddisgybl ar y tro (20 munud)
Dewis 3: £87.50 – pecyn unigol 10 gwers 15 munud
Er mwyn archebu a thalu am wersi mae angen mewngofnodi i wefan y gwasanaeth cerdd a dilyn y cyfarwyddiadau. Yn fuan ar ôl hynny bydd trefniadau yn cael eu gwneud i’r gwersi gychwyn. Y cyfeiriad gwefan yw www.wrexhammusiccoop.com
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os oes angen cymorth mae croeso i chi gysylltu gyda mi yn yr ysgol.