Mae clwb ar ôl ysgol yn cael ei redeg yn yr ysgol i ofalu am unrhyw blant sydd angen aros yn yr ysgol ddiwedd diwrnod arferol yr ysgol. Mae croeso i ddisgyblion o bob oed i fynychu'r clwb. Bydd y clwb yn cynnig byr bryd a diod i bob plentyn ar ddechrau'r clwb. Mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig yn y clwb i ddiddanu'r plant e.e. celf a chrefft, gemau a clwb ffilm.
Dyma'r costau i fynychu'r clwb : -
3.16yh i 4.15yh - £4.00
3.16yn i 5.15yh - £6.00
Rhaid casglu'ch plentyn erbyn 5.15yh.
Os ydych yn hwyr, bydd cost ychwanegol o £5 i bob plentyn.
Buaswn yn gwerthfawrogi os buaswch yn gallu cadw lle i'ch plentyn yn y clŵb o flaen llaw a talu am y clŵb yn wythnosol.