PARATOI AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD i GYMRU
Mae’r ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd fydd yn statudol o fis Medi, 2022. Gweledigaeth y cwricwlwm newydd yw cyfrannu at allu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben ac i feithrin y sgiliau cyfunol sy’n sail i’r dibenion.
Y Pedwar Diben
Nod y cwricwlwm yw cefnogi dysgwyr i ddod yn :
Bydd sgiliau hanfodol yn cael eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu;
sef creadigrwydd ac arloesi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu a sgiliau trawsgwricwlaidd.
Bydd 6 Maes Dysgu a Phrofiad yn rhan o’r Cwricwlwm Newydd : -
Y Celfyddydau Mynegiannol
Iechyd a Lles
Y Dyniaethau
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mathemateg a Rhifedd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg