Cinio Ysgol
Mae prydau ysgol nawr angen cael eu talu am a'i archebu o adref drwy ddefnyddio Parent Pay. Gofynnwn i chi ddewis pryd eich plentyn cyn 8 o'r gloch y bore. Mae angen i'ch plentyn gael pres ar eu cyfrif o flaen llaw. Os rydych wedi dewis pryd ar gyfer eich plentyn a dydy eich plentyn ddim yn dod i'r ysgol ar y diwrnod hwnnw, gadewch i ni wybod fel ein bod yn gallu canslo'r pryd. Os ydych angen cymorth yn cael mynediad i gyfrif eich plentyn, cysylltwch gyda swyddfa'r ysgol.
Mae Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio'n barhaus i ddarparu amrywiaeth eang o ddewisiadau iach er mwyn bodloni rhai o ofynion maethol plant sy'n tyfu ac yn datblygu.
Mae'r Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol mewn ysgolion cynradd yn cynnig bwydlen dau gwrs am bris penodol sydd â dewis dyddiol o ddau brif gwrs neu datws pob wedi'u llenwi a salad neu becyn cinio, ynghyd â phwdin ffres neu ffrwythau ffres a iogwrt.
Cynigir dewis o lysiau bob dydd, ynghyd ag amrywiaeth o wahanol garbohydradau gan gynnwys reis a phasta. Dylai sglodion fod ar gael unwaith yr wythnos yn unig.
Mae prydau ysgol yn rhoi cyfle ardderchog i blant roi cynnig ar fwydydd newydd yn gynnar yn ystod eu blynyddoedd datblygol. Tra bo staff arlwyo’n gwneud pob ymdrech i annog pobl ifanc i ddewis prydau iach, mae’n hanfodol bod rhieni ac ysgolion yn gwneud yr un fath. Gyda’u cefnogaeth hwy gallwn annog plant i newid eu harferion bwyta a dewis y bwyd iach sydd ar gael yn rheolaidd.
Yr her i bawb sy'n arlwyo prydau ysgol yw paratoi bwyd y bydd y disgyblion yn ei fwynhau ac yn ei fwyta, sydd hefyd yn hybu arferion bwyta da.
Efallai nad yw paratoi cinio pecyn i’ch plentyn mor gost effeithiol ag y tybiwch. Gyda chostau bwyd yn codi’n barhaus, mae’n werth ystyried manteision dewis y Cinio Pecyn Iach sy’n cael ei baratoi gan y gwasanaeth arlwyo cinio ysgol.
Mae Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cynnwys:
Mae pob Cinio Pecyn Iach Ysgol yn cael ei gadw mewn amodau oer priodol nes bydd ei angen amser cinio.
Os oes gan eich plentyn hawl i bryd am ddim, gellir darparu cinio pecyn ar gais.
Gall y Cinio Pecyn Iach Ysgol roi pryd iach a chytbwys i’ch plentyn. Mae pob cinio yn cydymffurfio â’r canllawiau maethol a gall gynnig y maetholion pwysig sydd eu hangen ar blant i dyfu, a datblygu yn eu blynyddoedd cynnar.
Rhowch gynnig ar Ginio Pecyn Iach Ysgol am yr un pris â chinio ysgol. Gellir gofyn am ginio pecyn o flaen llaw, neu gellir eu dewis wrth y cownter amser cinio.