Menu
Home Page Ysgol Bryn Tabor

Dysgu A Gwella Gyda’n Gilydd – Yn Hapus A Diogel

Google Search
Google Translate

Miss Tesni Jones - Hwyaid Hapus Blwyddyn 1 & 2

 

Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau hwylus y plant.

 

Croeso i dudalen gwefan dosbarth Blwyddyn 1 a 2 Llewod Llawen Miss Jones.

 

Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau hwylus y plant.

 

 

Tymor yma, rydym am weithredu thema ysgol gyfan, sef Dewis da, Bywyd da. Ein bwriad yn ystod y thema yma yw canolbwyntio yn benodol ar iechyd a lles yn ogystal ag ymchwilio’r meysydd eraill. Rydym yn gyffrous iawn i ddechrau thema newydd ac yn awyddus iawn i gael mewnbwn y disgyblion.

 

 

Gwisg
Mae angen i enw eich plentyn fod yn glir ar bob dilledyn.
 
• Gwersi Ymarfer Corff: Mi fydd gwersi Ymarfr Corff yn digwydd ar brynhawn ddydd Mawrth. Felly bob dydd Mawrth gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu siwmper ysgol, joggers / siorts a threinyrs.
 
• Ysgol Goedwig - gofynnwn yn garedig i chi anfon eich plentyn i'r ysgol yn siwmper ysgol gyda hen drowsus addas a phâr o esgidiau glaw mewn bag.

 

Seesaw
Gan ein bod yn cynllunio a chwblhau amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau effeithiol o fewn yr uned, hoffem roi’r cyfle i chi fod yn ran o addysg y disgyblion drwy rannu rhai o’r gweithgareddau yma gyda chi. Mae croeso i chi rhannu sylwadau ar y tasgau yma drwy glicio ar “write a comment” ar yr weithgaredd.
Yn amlwg mae’r disgyblion yn cyd weithio ac mae llawer o weithgareddau grŵp yn digwydd o fewn yr uned, felly os nad ydych yn hapus i ni uwch lwytho llun neu fidio o’ch plentyn arno, rhowch wybod i ni mor fuan â phosib gan fydd rhieni dosbarth eich plentyn yn gallu ei weld.
 
Gwaith Cartref
Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ddydd Gwener drwy Seesaw. Gall y plant uwch lwytho llun o'u gwaith i Seesaw er mwyn i'r athrawon adael sylwadau. Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r gwaith o fewn yr wythnos. 
Byddwn hefyd yn rhannu lluniau a fidios o weithgareddau’r dosbarth i chi hefyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau gadewch i athro dosbarth eich plentyn wybod.

 

Bagiau Darllen

Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod eich plentyn yn dod a bag darllen i'r ysgol yn ddyddiol gan nad oes diwrnod penodol lle bydd eich plentyn yn newid eu llyfrau. Hefyd rydym yn eich annog i ddarllen gyda eich plentyn o leiaf tair gwaith yr wythnos er mwyn iddynt ddod yn ddarllenwyr hyderus a rhugl. Diolch.

 

 

Llythyr Mis Medi ac Amserlen Ysgol Goedwig

Awards Bar

CEOP Hwb Digital Learning for Wales
Top