Croeso i dudalen gwefan dosbarth Derbyn Mrs Llinos Owen.
Ar y dudalen hon, byddwn yn rhannu newyddion ac uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau hwylus y plant.
Yr hanner tymor yma ein thema yw "Bili Broga a’r Gwanwyn." Mi fydd y plant yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau personol a chymdeithasol ac yn dysgu amdanyn nhw eu hunain.
Y tymor nesaf ein thema yw ‘Yr Haf."
Yn y dosbarth derbyn bydd y plant yn dysgu trwy chwarae pwrpasol gyda gweithgareddau amrywiol, cyffrous a diddorol pob wythnos. Mae’r plant yn cael cyfle hefyd i ddysgu, ymchwilio a chwarae yn rhydd yn yr ardal awyr agored.
Gwybodaeth Bwysig
Bagiau Darllen – Bydd bag darllen eich plentyn yn cael ei yrru adref ar ddydd Gwener a bydd angen eu dychwelyd i’r ysgol ar yn ddydd Llun. Gofynnwn yn garedig i chi ysgrifennu sylw yn y cofnod darllen.
Cit Ymarfer Corff – Pob dydd Llun
Ysgol Goedwig – Pob dydd Gwener. Lili wen fach un wythnos a Cennin Pedr yr wythnos wedyn. Bydd llythyr yn cael ei ddanfon allan i'r rhieni i’w hatgoffa.
Arian Ffrwyth – Unwaith pob hanner tymor, bydd llythyr yn cael ei ddanfon allan i'r rhieni yw hatgoffa.